CPR Workshops archive
BALI UNMASKED [May 2008]
An intensive, practical, introduction to Balinese Topeng masked dance-drama.

FOUR DAY WORKSHOP, 10-4 PM, MAY 21-24
An intensive and fun immersion into the techniques of Topeng masked drama, a unique and ancient theatre form which incorporates storytelling, mask work, dance and physical characterisation. The course will be led by Ida Bagus Alit, a lifelong performer of Topeng, who has skills, insights and innate knowledge of this extraordinary form of performance that few in the world possess.
The course is suitable for actors, dancers, storytellers, circus performers and students of performance with an interest in mask work and cross-cultural art forms. Participants will be immersed in a practical hands-on exploration of Topeng as well as contextual learning sessions with British based practitioners Margaret Coldiron and Tiffany Strawson. Participants will gain a deeper understanding of Topeng’s role in traditional and contemporary Balinese culture as well as its influence on current performance practice.
There will be a special Topeng performance event with Ida Bagus Alit on the evening of Saturday 24th May.
Topeng Performance: Saturday 24th May, 7.30pm, Venue 1 (on stage event) £3 (free for workshop participants)
Sherman Cymru in association with Lunar productions and CPR
BALI UNMASKED - TYNNU MWGWD BALI – CYFLWYNIAD DWYS AC YMARFEROL I TOPENG, DRAMA-DDAWNS FYGYDAU BALI.
Mai 21-24 2008, Sherman Cymru, Caerdydd
Cyflwyniad dwys a difyr i dechnegau drama fygydau Topeng, math o theatr sy’n hynafol ac unigryw, ac sy’n cynnwys elfennau o adrodd straeon, gweithio â mygydau, dawns a chymeriadu corfforol. Bydd y cwrs dan arweiniad Ida Bagus Alit, sydd wedi perfformio Topeng gydol ei oes. Ychydig iawn o bobl yn y byd sy’n meddu ar y sgiliau, y ddealltwriaeth a’r wybodaeth gynhenid sydd ganddo fe ynghylch y ffurf anhygoel hon ar berfformio.
Mae’r cwrs yn addas i actorion, dawnswyr, storïwyr, perfformwyr syrcas, a myfyrwyr perfformio sy’n ymddiddori mewn gwaith mygydau a chelf draws diwylliannol. Bydd y cwrs yn gyfle i archwilio Topeng yn ymarferol, yn ogystal â chael esboniad o'r cyd-destun gan ymarferwyr sy’n gweithio ym Mhrydain, sef Margaret Coldiron a Tiffany Strawson. Dyma gyfle i gael gwell dealltwriaeth o’r rhan y mae Topeng yn ei chwarae yn niwylliant traddodiadol a chyfoes Bali, yn ogystal â’i dylanwad ar ymarfer perfformiadol cyfredol.
Bydd perfformiad Topeng arbennig gydag Ida Bagus Alit ar nos Sadwrn 24 Mai.
Gweithdai: Dydd Mercher 21 i ddydd Gwener 23, 10-4 pm, £150 pris llawn / £95 gostyngiadau
Topeng – Perfformiad: dydd Sadwrn 24 Mai, 7.30pm, ‘Feniw’ 1 (perfformiad llwyfan) £3 (am ddim i’r rhai sydd ar y gweithdai)
Am ragor o wybodaeth am brosiectau Bali Unmasked gweler: www.lunarproductions.org
More information on BALI UNMASKED can be found at
www.lunarproductions.org,
Other workshops in the archive
|